Lleoliad:
Video Conference via Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 9 Chwefror 2021
Amser:
09.00 -
09.20
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AS Mark Isherwood AS Siân Gwenllian AS Mandy Jones AS |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Caroline Jones; Roedd Mandy Jones yn bresennol fel dirprwy.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfodydd blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Nododd y Pwyllgor Busnes y trefniadau ymarferol canlynol ar gyfer gwaith craffu deddfwriaethol yr wythnos hon a chytunodd arnynt:
· bydd meicroffonau’r Aelodau perthnasol yn weithredol yn ystod cyfnodau pan fydd gwelliannau'n cael eu cynnig yn ffurfiol a phan bleidleisir arnynt, er mwyn osgoi oedi;
· at ddibenion pleidleisio, cynhelir dau gyfarfod ar wahân gyda gwahanol rifau adnabod ar y ddau ddiwrnod, felly bydd angen i Aelodau fewngofnodi i'r system ddwywaith;
· ddydd Mawrth, bydd toriad cyn y bleidlais gyntaf yn y Pwyllgor o’r Senedd Gyfan, a thoriad byr rhwng y Pwyllgor a dechrau'r Cyfarfod Llawn; a
· dydd Mercher, bydd toriad cyn y bleidlais gyntaf ym mhob un o’r trafodion Cyfnod 3, toriad byr rhwng y Cyfnod 3 cyntaf a Chwestiynau Llafar, ac eto cyn y Cyfnod 3 ar y Bil Brys.
Dydd Mawrth
· Bydd y Cyfarfod Llawn yn dechrau ar ôl diwedd trafodion y Pwyllgor o’r Senedd Gyfan ar gyfer Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws), a fydd yn dechrau am 13.00.
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
Dydd Mercher
· Bydd y Cyfarfod Llawn yn dechrau am 13.00.
· Ni fydd cyfnod pleidleisio heblaw yn ystod y ddwy ddadl Cyfnod 3.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.50pm.
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai'n arfer ei phwerau dethol, er mwyn osgoi i Gyfnod 2 o’r Bil Brys gael ei ailadrodd yng Nghyfnod 3, ac anogodd yr Aelodau i beidio ail-gyflwyno gwelliannau sydd wedi'u gwrthod yn gynhwysfawr yng Nghyfnod 2.
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newid a ganlyn:
Dydd Mawrth 23 Chwefror 2021
· Dadl: Cyfnod 4 y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) (15 munud)
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 24 Chwefror 2021 -
·
Eitem Dadl ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru
(45 munud)
Dydd Mercher 3 Mawrth 2021 –
·
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor
Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: A ddylid datganoli
darlledu? (30 munud) – gohiriwyd tan 17 Mawrth
·
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd,
Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Ymchwiliad i effaith Covid-19,
a’r modd y mae’n cael ei reoli, ar iechyd a gofal
cymdeithasol yng Nghymru: Adroddiad 2 - Yr effaith ar iechyd meddwl
a llesiant (630 munud)
· Dadl ar ddeisebau yn ymwneud â rhaglen frechu COVID-19 (30 munud)
Dydd Mercher 10 Mawrth 2021 –
· Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): (30 munud)
· Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar adferiad hirdymor o Covid-19 (60 munud)
· Dadl ar ddeiseb P-05-1078 Cynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a gwella amseroedd aros i bobl sydd angen help mewn argyfwng (30 munud).
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (30 munud)
Senedd Ieuenctid Cymru
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes mai cyfres o ddatganiadau fydd yr eitem ar 24 Chwefror, yn hytrach na dadl, felly ni fydd pleidlais ar y diwedd. Amlinellodd hefyd y strwythur arfaethedig yn fanylach, gan gynnwys y byddai'r Prif Weinidog ac arweinwyr y pleidiau yn cael eu gwahodd i gyfrannu.